MeurigWILLIAMSMai 3, 2024 Yn annisgwyl yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Fferm Fron Erch, Abererch, yn enedigol o Fferm Tyddyn, Llangybi, yn 78 mlwydd oed.
Gŵr cariadus ac amhrisiadwy Margaret; brawd Alwena a'i gŵr Tony; brawd-yng-nghyfraith Menai ac Emlyn, Hugh a'r ddiweddar Olive, Elwyn a'r ddiweddar Margaret; ewythr a hen ewythr hoffus a direidus a ffrind i lawer. Gŵr bonheddig, cymwynasgar a gweithgar. Colled enfawr i'w deulu, ei ffrindiau, ei gymdogion a'r gymuned.
Angladd ddydd Iau, Mai 16, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Y Drindod, Pwllheli am 11.30 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Newydd Pentir (ger Bangor LL57 4UR), oddeutu 1.30 y prynhawn.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at elusennau oedd yn agos at ei galon.
Ymholiadau pellach i
Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau,
Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon.
Ffôn 01286 871833.
Notify me with new activity on this notice